Cabanau Glan Môr Bro Morgannwg
Croeso i System Archebu Caban Glan Môr Ar-lein Bro Morgannwg
Mae gan Ynys y Barri 24 o gabanau glan môr ym Mae Whitmore, sy’n cynnig golygfeydd hardd o’r traeth. Mae’r cabanau wedi’u lleoli ar naill ochr y wal ddringo wych a’r nodwedd dŵr ac maent yn cynnig golygfeydd arbennig o draeth trawiadol Bae Whitmore.
Mae’r cabanau wedi’u cynllunio i fod yn sylfaen ardderchog i deuluoedd ac ymwelwyr sy’n ymweld â chyrchfan boblogaidd Ynys y Barri ac maen nhw’n cynnig digon o le i storio eiddo, yn ogystal â lle preifat i newid.
Mae opsiwn i archebu un o ddau faint o gaban - bach neu fawr. Maint y cabanau bach yw 2.5m x 1.8m ac maen nhw’n sylfaen gyfleus i grwydro’r arfordir hardd. Maint y cabanau mawr yw 2.4m x 2.5m ac mae ganddynt fynediad at ddŵr rhedegog. Mae socedi trydanol yn y cabanau mawr a bach.
Mae’r cabanau bach yn costio £21.80 y dydd ac mae’r cabanau mawr yn £37.20 y dydd yn ystod y cyfnod prysur (tan 31 Hydref) ac mae’r prisiau'n is yn ystod misoedd y gaeaf. Mae cabanau ar gael rhwng 10am ac 8pm yn ystod y cyfnod prysur (6pm yn y gaeaf a 10pm yn ystod gwyliau haf yr ysgol).
Sylwch ein bod yn gweithredu polisi dim ad-daliadau ar ôl archebu. Fodd bynnag, gallwn newid dyddiad eich archeb yn amodol ar argaeledd.
Os hoffech archebu caban yna dilynwch y ddolen archebu ganlynol. Archebu Ganlynol